Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol – 21 Mawrth 2024, San Steffan

Ddydd Iau 21 Mawrth, cyfarfu Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol am y trydydd tro yn Portcullis House, San Steffan. Roedd aelodau o Bwyllgor Cyllid y Senedd a Phwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban yn bresennol, gyda swyddogion hefyd yn bresennol o Bwyllgor Cyllid Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Yn ystod y cyfarfod trafododd y Fforwm sut mae Trysorlys EM yn rhyngweithio â’r llywodraethau datganoledig wrth ddatblygu Cyllideb y DU ac amserlenni cysylltiedig.

Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda Chadeiryddion ac Aelodau Pwyllgor Dethol y Trysorlys a Phwyllgor Dethol Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, cyn-Weinidog Trysorlys EM, y Sefydliad Llywodraeth, a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyhoeddodd y Fforwm ddatganiad ar y cyd a llythyr at Drysorlys EM yn dilyn y cyfarfod.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

“Mae’r Alban a Chymru yn wynebu heriau tebyg o ran craffu ar y gyllideb a diffyg ymgysylltiad â Thrysorlys EM ar faterion cyllidol sy’n effeithio ar ein priod wledydd.

Roedd ein cyfarfod yn San Steffan yn hynod o bwysig o ran darparu llwyfan i’r fforwm bwyso am weithredu ar faterion o bryder cyffredin, ac mae ein llythyr at y Trysorlys yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni wrth weithio ar y cyd.

Mae’r fforwm yn parhau i ddarparu gofod ar gyfer deialog adeiladol rhwng y deddfwrfeydd datganoledig ar faterion o bwysigrwydd a rennir, a bydd yn cyfarfod eto yn ddiweddarach eleni i ddatblygu’r materion hyn ymhellach.”